Visitor Operations & Experience Manager - Wrexham

Wrexham, Wrexham (Wrecsam)
29,640 pa
18 May 2022
09 Jun 2022
IRC119706
Full Time, Part Time
Visitor Operations & Experience Manager - Wrexham

Summary

You will lead our visitor facing team at Chirk Castle, a magnificent medieval castle standing at the head of the beautiful Ceiriog valley and the only continuously occupied Edwardian castle. Since the 16th century it has been home to the Myddelton family.  As a key strategic fortress in the Marchers, Welsh and English identity battle for dominance to this day.     
You'll play a key role in the North East Wales portfolio leadership team working with colleagues looking after the countryside, our built heritage and facilities and public engagement. This is an opportunity for an experienced visitor operations professional to inspire and lead staff to make a difference for nature and people and provide great visitor experiences.
Welsh desirable.If you have any questions about the role or the language requirements please contact: hawys.dafis@nationaltrust.org.uk
Byddwch yn rheoli ein tîm sy'n delio'n uniongyrchol â chwsmeriaid yng Nghastell y Waun, sef castell canoloesol ysblennydd sy'n sefyll ym mhen uchaf Dyffryn Ceiriog, a'r unig gastell Edwardaidd y mae rhywun wedi trigo ynddo'n barhaus. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Myddelton.  Fel caer strategol allweddol yn y Gororau, mae hunaniaeth Gymreig a Saesnig yn brwydro am oruchafiaeth yma hyd heddiw.
Byddwch yn rhan allweddol o dîm arweinyddiaeth portffolio gogledd-ddwyrain Cymru, yn cydweithio â rhai sy'n gofalu am gefn gwlad, ein treftadaeth adeiledig a chyfleusterau ac ymgysylltu â'r cyhoedd.  Dyma gyfle i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes gweithrediadau ymwelwyr ysbrydoli ac arwain staff i wneud gwahaniaeth er lles natur a phobl, a darparu profiadau gwych i ymwelwyr.  
Cymraeg yn ddymunol.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu ofynion iaith cysylltwch â: hawys.dafis@nationaltrust.org.uk

What it's like to work here

No two days are the same at Chirk Castle. In this varied role you will be leading on new visitor experiences, finding new ways to bring history to life and supporting external partnerships. There is plenty of opportunity to develop yourself and your team and make a difference.    
You will be supported by a great team of people who are passionate about sharing this atmospheric place. As part of a wider community within the National Trust you will help us build new and better experiences for all our visitors.  
Mae pob diwrnod yn wahanol yng Nghastell y Waun. Yn y swydd amrywiol hon, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu profiadau newydd i ymwelwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o ddod â hanes yn fyw, a chefnogi partneriaethau allanol.  
Ceir digonedd o gyfleoedd i ddatblygu eich hun a'ch tîm, ac i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi gan dîm gwych o bobl sy'n llawn brwdfrydedd ynghylch rhannu'r lle hwn a'i awyrgylch rhagorol. Fel rhan o gymuned ehangach o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn ein helpu i greu profiadau newydd a gwell ar gyfer ein holl ymwelwyr.

What you'll be doing

You'll join the North East Wales portfolio at an exciting time introducing new ways of working and influencing future direction.  You'll play an active role in major projects, managing budgets and ensure we meet our compliance tasks. You'll be a visible leader and manager of teams, drive strong operational performance and deliver world class experiences for all our visitors. You'll be experienced in visitor management, stretching standards of presentation and safety.     
If you are an experienced leader and manager, love working in a busy environment, and working with others - this could be the role for you!
Byddwch yn ymuno â phortffolio gogledd-ddwyrain Cymru ar adeg gyffrous, gan gyflwyno ffyrdd newydd o weithio a dylanwadu ar ei drywydd ar gyfer y dyfodol.  Byddwch yn chwarae rhan weithgar mewn prosiectau mawr, wrth reoli cyllidebau ac wrth sicrhau ein bod yn cyflawni tasgau cydymffurfio.  Fe fyddwch yn arweinydd a rheolwr gweladwy i dimau, yn ysgogi perfformiad gweithredol cryf ac yn darparu profiadau o'r safon uchaf un i'n holl ymwelwyr. Bydd gennych brofiad yn y maes rheoli ymwelwyr, a byddwch yn mynnu safonau cyflwyno a diogelwch uwch.  
Os ydych yn arweinydd a rheolwr profiadol, wrth eich bodd yn gweithio mewn amgylchedd prysur a gydag eraill - gallai hon fod y swydd berffaith i chi!

Who we're looking for

We would love to hear from people with the following skills/experience: 
  • A dynamic, pragmatic, and energetic leader with a proven track-record in visitor operations 
  • An experienced and effective line manager 
  • A great coach and mentor with high standards of performance 
  • Well-organised, able to balance competing priorities 
  • Adept at operational management including budgets, rotas, and planning  
  • A confident and calm presence, supporting the team across the property Skilled in stakeholder engagement to develop partnerships.   
Byddai’n wych clywed gan bobl sydd â'r sgiliau/profiad canlynol:  
  • Arweinydd deinamig, pragmataidd a llawn egni sydd â hanes o lwyddiant ym maes gweithrediadau ymwelwyr 
  • Rheolwr llinell profiadol ac effeithiol 
  • Hyfforddwr a mentor gwych, sydd â safonau perfformiad uchel 
  • Unigolyn trefnus sy'n gallu ymdopi â nifer o flaenoriaethau 
  • Gallu rheoli gweithrediadau, gan gynnwys cyllidebau, rotâu a chynlluniau, yn fedrus
  • Presenoldeb hyderus a digynnwrf sy'n cefnogi'r tîm ar draws yr eiddo 
  • Yn fedrus wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu partneriaethau.


The package

The National Trust has the motto ‘For everyone, for ever’ at its heart. We’re working hard to create an inclusive culture, where everyone feels they belong. It’s important that our people reflect and represent the diversity of the communities and audiences we serve. We welcome and value difference, so when we say we’re for everyone, we want everyone to be welcome in our teams too.

Wherever you’re from, and whatever your background, we want to hear from you – and it doesn’t matter if you’re jam first, cream first, or even if you don’t like scones at all. Everyone is welcome.

Benefits for working at the National Trust include:

  • Flexible working whenever possible
  • Free parking at most locations
  • Free entry to our properties for you, a guest and your children (under 18)
  • Substantial pension scheme of up to 10% basic salary

Click here to find out more about the benefits we offer to support you.

   

Mae’r arwyddair ‘I bawb, am byth’ yn ganolbwynt yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, ble mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ni ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb dderbyn croeso yn ein timau hefyd.

O ba le bynnag y dewch, a waeth beth yw’ch cefndir, rydym yn awyddus i glywed gennych – p’un ai ydych yn rhoi jam yn gyntaf, hufen yn gyntaf, neu’n casáu sgons hyd yn oed, d’oes dim ots. Mae croeso i bawb.

Mae’r buddion o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys:

  • Gweithio hyblyg pryd bynnag y bo modd
  • Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
  • Mynediad am ddim i’n heiddo i chi, i’ch gwestai a’ch plant (dan 18)
  • Cylin pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol

Cliciwch yma i ddysgu rhagor am y buddion a gynigiwn i chi i'ch cefnogi.