Cogydd - Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai - Caernarfon, Gwynedd
- Employer
- Parkwood Leisure Ltd
- Location
- Caernarfon, Gwynedd
- Salary
- £24,111 - £26,582 (FT)
- Closing date
- 5 Jun 2023
View more
- Sector
- Chef jobs, Chef, Chef de Partie, Cook
- Job Type
- Full Time
Cogydd - Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai - Caernarfon, Gwynedd
CYFLOG: £24,111 - £26,582 (FT)
AMDANOM NI
Mae Legacy Leisure, a sefydlwyd i gefnogi etifeddiaeth genedlaethol yn dilyn y Gemau Olympaidd, yn sefydliad elusennol dielw sydd wedi ymrwymo i ddarparu ystod amrywiol ac ystyrlon o weithgareddau hamdden a diwylliant ar gyfer y cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu. Gan anelu at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid, mae'r Cwmni hefyd yn ymfalchïo yn ei hanes iechyd a diogelwch rhagorol a'i ymrwymiad i'w staff.
PLAS MENAI
Plas Menai yw Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru. Yn 2023 byddwn yn dathlu 40 mlynedd o gyflwyno ystod eang o weithgareddau anturus ar y safle ac oddi arno. Rydym hefyd yn cynnal cyrsiau i hyfforddwyr mewn sawl disgyblaeth ac mae gennym gyrsiau hyfforddi i ysgolion, Grwpiau Corfforaethol a hyfforddiant Phroffesiynol. Mae gan y Ganolfan lety ar gyfer hyd at 150 o bobl a chaiff yr holl brydau eu paratoi gan ein Tîm Arlwyo ar y safle.
Y CYFLE
Mae gennym gyfle i Gogydd newydd ymuno â'n Tîm Arlwyo prysur. Rydym yn chwilio am rhywun sydd ag angerdd am fwyd ac sy’n chwaraewr tîm gwych i helpu ein Rheolwr Arlwyo i gyflwyno’r fwydlen newydd yn 2023
ORIAU GWAITH
Gall y Swydd fod yn llawn amser - 37 Awr yr wythnos neu 2 X Rhan Amser 23 Awr yr wythnos. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota 3 wythnos, a fydd yn cynnwys gweithio 1 penwythnos o bob tri, yn ogystal â shifftiau cynnar a gyda'r nos.
I WNEUD CAIS
Os ydych yn teimlo y byddwch yn llwyddiannus yn y rôl hon neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gwnewch gais gyda llythyr cais a CV
Dyma’r prif amcanion ar gyfer yr Gogydd:
- Paratoi a choginio prydau i gwsmeriaid, ymwelwyr, staff a chleientiaid corfforaethol rheolaidd Plas Menai.
- Cyflwyno cynnig arlwyo yn unol â'r safonau a nodir gan y Prif Gogydd a fydd yn sicrhau bwyd maethlon, o ansawdd uchel i sicrhau bodlonrwydd cwsmeriaid.
- Bod yn gyfrifol am bob agwedd ar arlwyo o ddydd i ddydd gan gynnwys; diogelwch bwyd, rheoli stoc, archebu a glanhau.
- Dirprwyo yn ôl yr angen yn absenoldeb y Prif Cogydd.
- Cyfrannu'n cadarnhaol ac yn rhagweithiol at y tîm arlwyo i sicrhau llwyddiant y ganolfan.
- Cyfrannu at ymdrech y tîm a chynnal y safonau gweithredol i sicrhau bod y ganolfan yn cael sgôr 5 allan o 5 gan “Scores on the Doors”.
- Helpu i reoli gweithrediadau bob dydd y swyddogaeth arlwyo er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd busnes a phroffidioldeb yn unol â'r cynllun busnes.
Bydd y Cogydd yn canolbwyntio o ddydd i ddydd ar y tasgau canlynol:
- Paratoi a choginio bwyd ar gyfer cwsmeriaid ac ymwelwyr.
- Sicrhau bod gweithdrefnau a chyfrifoldebau Polisi Diogelwch Bwyd y cwmni'n cael eu cynnal drwy'r amser.
- Helpu'r Prif Cogydd i sicrhau bod gan bob aelod o staff sy'n rhan o’r tîm arlwyo ddigon o hyfforddiant i fodloni’r gofynion rheoleiddio a hyfforddiant sydd eu hangen er mwyn cwblhau eu dyletswyddau'n llwyddiannus.
- Cynnal systemau rheoli stoc i leihau gwastraff a helpu proffidioldeb. Sicrhau bod lefel uchel gyson o wasanaeth yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid.
- Ysgogi gwariant eilaidd gan ddefnyddwyr cyfleusterau drwy gefnogi'r rheolwr arlwyo gyda gweithgarwch hyrwyddo rheolaidd.
- Sicrhau bod eich ymddygiad a'ch safonau gwaith eich hun yn cyd-fynd â'r rheoliadau trwyddedu.
- Cyfrannu at sicrhau bod digon o staff ar gael ar gyfer gweithredu’r gwasanaethau arlwyo yn ddiogel ac i safon uchel.
- Helpu i reoli systemau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd y Ganolfan.
- Gwneud gwaith cynnal a chadw, dyletswyddau cadw tŷ a glanhau yn ôl y gofyn.
- Ymgymryd ag unrhyw ofynion rheoliadol.
- Bod yn gyfrifol ac yn atebol am drin arian yn ôl y galw.
- Bod yn gyfrifol am staff arlwyo eraill ar shifft yn ôl y galw.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gall fod yn ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i sicrhau bod amcanion busnes y contract yn cael eu cyflawni.
YR YMGEISYDD
Cymwysterau a sgiliau
- Bydd gan ddeiliad y swydd gymhwyster cydnabyddedig mewn arlwyo fels GNVQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol neu bwnc cysylltiedig, yn ogystal ag Ardystiad Bwyd a Hylendid.
- Dangos profiad diweddar mewn swydd cogydd.
- Byddwch yn dangos gwybodaeth fanwl am HACCP a’r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd.
- Bydd gennych ddealltwriaeth o darddiad bwyd a chynnyrch tymhorol.
Personol
Ymhlith y nodweddion personol rhaid i'r ymgeisydd sicrhau’r canlynol:
- Gallu meithrin perthynas gadarn â chwsmeriaid, cleientiaid a gweithwyr. Bod â sgiliau arwain a chyfathrebu da.
- Gallu bodloni gofynion y rôl drwy weithio oriau ychwanegol a/neu gyflawni dyletswyddau ychwanegol yn ôl yr angen.
- Gallu cynnal a bod yn ymrwymedig i gysylltiadau da â gweithwyr a darparu hyfforddiant o ansawdd.
- Gallu goruchwylio a chymell staff.
- Chwarae mewn tîm a gallu gweithio'n agos gyda holl dîm staff y safle.
- Bod yn hyblyg gan y bydd oriau gwaith yn amrywio.
Get job alerts
Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.
Create alert