Skip to main content

This job has expired

Hyfforddwr Gweithgareddau Tymhorol (Gradd 4) - Caernarfon, Gwynedd

Employer
Parkwood Leisure Ltd
Location
Caernarfon, Gwynedd
Salary
£23,184 y flwyddyn
Closing date
19 Dec 2022

Hyfforddwr Gweithgareddau Tymhorol (Gradd 4) - Caernarfon, Gwynedd

Y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol – Plas Menai, Caernarfon.

Gwaith: 37 awr yr wythnos (Contract 8 Mis Cyfnod Penodol 01 Mawrth 2023 - 31 Hydref 2023)

Plas Menai yw’r Canolfan Awyr Agored Genedlaethol i Gymru. Da ni wedi ein lleoli ar lannau’r Fenai, tafliad carreg o Barc Cenedlaethol Eryri ac arfordir godidog Ynys Môn a Phen Llŷn. Yn 2023 bydd y Ganolfan wedi bod yn cyflwyno amrywiaeth o Gyrsiau Hyfforddwr, Cyrsiau Technegol yn ogystal ag ystod eang o weithgareddau antur ers 40 mlynedd.

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i weithwyr ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig ystod o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth a wnawn, rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl ym Mhlas Menai. Rydym yn frwd dros hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac, fel rhan o’n rhaglen ddatblygu, yn rhoi’r cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o ddechreuwyr hyd at rugl.

SUT Y BYDDWCH YN CYFRANNU

Rydym yn chwilio am dri unigyoln i ymuno â thîm hyfforddi’r ganolfan ar gyfer tymor 2023.

Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn gyfrifol am redeg cyrsiau dŵr a thir ar y safle ac oddi arno yn unol â'r Llawlyfr Diogelwch a Gweithredol ac yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer ein grwpiau gweithgaredd. Bydd gofyn i chi ddylunio a chyflwyno eich deunyddiau cwrs eich hun gan gynnwys cynlluniau gwersi a chymhorthion clyweledol i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu â gweithgareddau yn gyfforddus ar eu lefel eu hunain, gan ddarparu profiad myfyriwr-ganolog.

GYDA PWY Y BYDDWCH YN GWEITHIO

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o hyfforddwyr cymwysiedig a llawn cymhelliant i gyflwyno gweithgareddau antur o ansawdd uchel i unigolion, grwpiau, ysgolion a'n Partneriaid Corfforaethol.

Yn adrodd i'r Prif Hyfforddwr, byddwch yn cefnogi'r tîm trwy fentora cydweithwyr iau, gan gynnwys unigolion ar ein Raglen Datblygu Hyfforddwyr.

BETH FYDDWCH ANGEN

Yr ydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o redeg ystod eang o sesiynau gweithgaredd anturus a rhaglenni a gweithgareddau Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Rhaid i chi feddu ar o leiaf tri chymhwyster hyfforddi Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn Chwaraeon Antur Awyr Agored ac hefo o leiaf dau dymor o profiad o weithio mewn canolfan awyr agored brysur.

Bydd gan ymgeiswyr addas y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd yn glir ac yn effeithiol, gan feddu ar arddull addysgu ddeniadol. Byddwch hefyd wedi ymrwymo i wella’r hyn y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig yn barhaus, gan ganolbwyntio ar atebion a gallu gweithio dan bwysau.

Os oes gennych chi'r presenoldeb a'r bersonoliaeth i weithio mewn tîm sy'n perfformio'n dda yn ogystal â'r angerdd a'r awydd i lwyddo, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

BETH SY'N DIGWYDD NESAF

Gallwch wneud cais am y rôl hon nawr drwy anfon eich CV llawn a datganiad ategol drwy glicio ar 'Gwneud Cais'.

DYDDIAD CYFWELIAD

  • 9fed o Ionawr 2023

Mae Plas Menai yn falch o fod yn Gyflogwyr Cyfle Cyfartal sydd wedi ymrwymo i gynhwysiant ac amrywiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl i osgoi cael eich siomi gan y cynhelir cyfweliadau drwy gydol y broses. Sylwch, os nad ydych wedi derbyn gohebiaeth o fewn 21 diwrnod, yna cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert